Ymateb ysgrifenedig i adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar ‘Gynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol’ gan Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

 

Crynodeb Gweithredol

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant ar ‘Gynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol’. 

 

Mae’r ymchwiliad hwn ac adroddiadau’r Pwyllgor a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amserol iawn, wrth gwrs. Yn y cyfnod arbennig o anodd hwn mae pobl Cymru, yn fwy nag yn unrhyw le arall, yn wynebu toriadau na welwyd eu tebyg o’r blaen gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – toriadau y bydd pobl sydd eisoes yn fregus yn teimlo’u heffaith fwyaf yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

 

Mae angen i ni fynd i’r afael â’r heriau sylweddol y mae hyn yn eu creu. Rydym wedi cychwyn yn gryf gyda’n Strategaeth Cynhwysiant Ariannol, ac mae llawer eisoes wedi cael ei gyflawni wrth ddarparu amrywiaeth fawr o gynhyrchion a gwasanaethau ariannol, gyda chefnogaeth darparu gwasanaethau addysg a chyngor ariannol sy’n hawdd eu cael ac yn ddi-dâl, i bawb sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig i’r rheiny sydd eisoes wedi’u hallgau’n ariannol ac sydd eisoes ar ymylon y gymdeithas. 

 

Bydd grymoedd allanol y tu hwnt i’n rheolaeth uniongyrchol, megis yr economi a phenderfyniadau cyllidebol a pholisi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn parhau i roi prawf ar ein penderfyniad a’n hymrwymiad i sicrhau cynhwysiant ariannol, a rennir gyda’n partneriaid yng Nghymru, y byddwn yn parhau i gydweithio â hwy.

 

Isod mae Llywodraeth y Cynulliad yn nodi ei hymateb i argymhellion unigol yr adroddiad.

 

 

Argymhelliad 1. Rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth y DU, i bwysleisio, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, fod y ddarpariaeth addysg ariannol yn bwysicach nag erioed, ac y dylid defnyddio cyllid fel y gellir cyflwyno gwasanaeth Moneymadeclear y Corff Addysg Ariannol Defnyddwyr (CFEB) fesul cam.

 

Ymateb: Derbyn

 

Sylw: Byddwn yn parhau i drafod pwysigrwydd addysg a gallu ariannol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Corff Addysg Ariannol Defnyddwyr. Rydym yn gwybod am y cynigion presennol i ariannu cyflwyno gwasanaeth Moneymadeclear fesul cam trwy ardoll y CFEB ar sefydliadau ariannol a byddwn yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig bod hwn yn gynnig ymarferol a fydd yn darparu’r gwasanaeth hawdd ei gael ac o ansawdd da yr oedd Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo iddo.

 

Goblygiadau ariannol: Dim

 


Argymhelliad 2. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwahodd Comisiynydd y Gymraeg (ar ôl i Fesur y Gymraeg sefydlu’r swydd) i ymgysylltu â darparwyr addysg ariannol, i’w hannog i sicrhau y darperir cyngor ar arian yn Gymraeg, yn ogystal ag mewn ieithoedd eraill. 

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Sylw: Rydym yn cytuno y bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg (pan gaiff y swydd ei sefydlu, ac os bydd Mesur arfaethedig y Gymraeg yn cael ei gymeradwyo) ran bwysig i’w chwarae, er ei bod yn bwysig cydnabod y bydd y Comisiynydd yn annibynnol ac y bydd yn penderfynu ar ei weithgareddau, amserlenni a blaenoriaethau ei hun. Hefyd cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru yw hybu a hyrwyddo darpariaeth Gymraeg, er enghraifft trwy delerau ac amodau trefniadau ariannu gyda darparwyr a byddwn yn adolygu ein rôl yn hyn o beth.

 

Rydym wedi trefnu i nifer o adnoddau addysgu fod ar gael yn ddwyieithog lle mae ymarferwyr wedi cytuno y byddai’r deunyddiau’n ychwanegu gwerth sylweddol i’r ddarpariaeth ar gyfer addysg ariannol mewn ysgolion. Hefyd, mae Uned Addysg Ariannol Cymru’n parhau i weithio gyda phartneriaid yn y sector gwasanaethau ariannol. Mae’r Uned yn rhoi cyngor ar ddatblygu deunyddiau er mwyn iddynt fod yn gyson â’r cwricwlwm yng Nghymru a hefyd yn sicrhau bod partneriaid yn gwybod am anghenion ysgolion sy’n gweithio’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Goblygiadau ariannol: Dim yn nhermau adolygu telerau ac amodau cyllid. Mae’r Gyllideb Addysg eisoes yn darparu ar gyfer comisiynu deunyddiau Cymraeg i’r ystafell ddosbarth.

 

Argymhelliad 3. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo’n gyhoeddus y bydd yn ceisio sicrhau bod swyddogaeth strategol Uned Addysg Ariannol Cymru yn cael ei chynnal a’i datblygu i helpu i wella’r ddarpariaeth addysg ariannol mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach.

 

Ymateb: O dan ystyriaeth

 

Sylw: Cytunwyd y câi Uned Addysg Ariannol Cymru ei sefydlu, am gyfnod o ddwy flynedd i ddechrau. Bydd y cynnydd a wnaethpwyd yn y cyfnod hwnnw a’r achos i Lywodraeth Cynulliad Cymru roi mwy o gefnogaeth i ddarparu addysg ariannol mewn ysgolion yn cael eu hystyried ar ddiwedd y ddwy flynedd, ym mis Ebrill 2011, ac yng ngoleuni’r gwerthusiad cyfredol o waith yr Uned

 

Goblygiadau ariannol: £240,000 yw cost darparu Uned Addysg Ariannol Cymru yn 2010-11 yn y Gyllideb Addysg. Mae hyn yn cynnwys £140,000 a ddarperir gan y CFEB a ddaw i ben ym mis Mawrth 2011. Byddai angen i gostau unrhyw gefnogaeth arall i ddarparu addysg ariannol mewn ysgolion gael eu hystyried ochr yn ochr â phwysau eraill yn y Gyllideb Addysg.

 


Argymhelliad 4. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu canolfan ganolog o wybodaeth am brosiectau gallu ariannol, a fyddai’n darparu canllawiau ar fonitro a gwerthuso wrth lunio a gweithredu prosiectau a gwasanaethau newydd. Rhagwelwn y byddai hyn hefyd yn cynnwys cyfeiriadur o adnoddau cyfredol sy’n cael eu hystyried yn addas i ysgolion eu defnyddio wrth ddarparu addysg ariannol. Rhagwelwn y byddai hyn yn hwyluso’r broses o rannu arferion da, a byddai hefyd yn galluogi ysgolion i nodi a meithrin cysylltiadau â darpar bartneriaid yn gyflym er mwyn darparu addysg ariannol yn eu hardaloedd lleol.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor.

 

Sylw: Rydym yn cytuno bod angen ymagwedd gydgysylltiedig at allu ariannol ac at rannu arferion da. Mae angen i ni gofio costau menter o’r fath, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn pan fo cyllid y sector cyhoeddus yn wynebu pwysau sylweddol. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn trafod y potensial ar gyfer y gwaith hwn gyda rhanddeiliaid allweddol sy’n bartneriaid.

 

Rydym eisoes wedi cytuno mai Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru fydd yn lletya safle mewnrwyd i gefnogi darparu addysg ariannol mewn ysgolion. Bydd y safle’n cynnwys manylion deunyddiau addysgu ac adnoddau i’r ystafell ddosbarth ar gyfer addysg ariannol. Bydd hefyd yn cynnwys arferion da gan gynnwys gwaith gyda phartneriaid yn y trydydd sector a’r sector gwasanaethau ariannol wrth ddarparu addysg ariannol. Hefyd, rydym yn rhoi canllawiau i ysgolion ar ddarparu addysg ariannol. Bydd y rhain yn cynnwys manylion adnoddau addysgu a phartneriaid lleol a chenedlaethol sy’n fodlon cefnogi addysg ariannol mewn ysgolion.

 

Goblygiadau ariannol: Heb ei gostio yn nhermau gallu ariannol ehangach, byddai angen rhagor o waith i gostio’r cynnig hwn. Byddai angen ystyried unrhyw ymrwymiad ariannol ochr yn ochr â phwysau eraill yng Nghyllideb yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Yn nhermau safle mewnrwyd Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru, darperir am hyn eisoes yn y Gyllideb Addysg.

 

Argymhelliad 5. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, drwy fforymau fel y grŵp llywio cynhwysiant ariannol, ac ar y cyd â Llywodraeth y DU, yn annog sefydliadau ariannol i ddarparu cronfeydd i sefydliadau annibynnol fel y gallant gynnal rhaglenni addysg ariannol. 

 

Ymateb: Derbyn.

 

Sylw: Rydym yn cytuno bod yna ddyletswydd ar sefydliadau ariannol i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn llwyr ymwybodol o’r rhwymedigaethau y maent yn ymrwymo iddynt ac, yn fwy cyffredinol, bod ganddynt ddealltwriaeth well o faterion ariannol yn eu crynswth. Mae llawer o sefydliadau ariannol yn bodloni’r ymrwymiad hwn trwy eu hardoll i’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol sy’n cefnogi gwaith y CFEB  a thrwy eu rhaglenni cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol eu hunain. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhywfaint o hyblygrwydd wrth alinio’r gwaith hwn a byddwn yn bwrw ymlaen â’r argymhelliad hwn trwy’r Grŵp Llywio Cynhwysiant Ariannol.

 

Goblygiadau ariannol: Dim

 

Argymhelliad 6. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chyflogwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat i’w hannog i hwyluso cyfranogiad eu gweithwyr cyflogedig mewn seminarau addysg ariannol yn y gweithle, ac wrth dderbyn adnoddau addysg ariannol.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Sylw: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cefnogi menter gweithleoedd CFEB yn llwyr ac mae wedi rhoi cyfleoedd i’w staff fynychu seminarau ‘Making the Most of Your Money’ yn y gweithle, ac yn ddiweddar dosbarthodd arweiniadau CFEB i holl staff Llywodraeth y Cynulliad.   

Rydym wedi bod yn gweithio gyda CFEB (a chyn hynny gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol) ers mwy na 3 blynedd i hyrwyddo seminarau yn y gweithle i amrywiaeth o gyflogwyr. Bu hyn yn llwyddiant ysgubol, ac mae CFEB wedi cyrraedd mwy na 100,000 o bobl yng Nghymru gyda’r llyfrynnau ‘Making the Most of Your Money’, trwy fwy na 100 o wahanol gyflogwyr ac wrth i 4,700 o bobl fynychu’r cyflwyniadau. 

 

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gellir gwneud mwy a byddwn yn gweithio gyda CFEB i ddyblu ein hymdrechion yn y maes hwn.

 

Goblygiadau ariannol: Dim.

 

Argymhelliad 7. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol ledled Cymru i dynnu sylw at werth trawsbynciol mynd i’r afael â chynhwysiant ariannol ac addysg ariannol fel rhan o’u cyfrifoldebau statudol cyfredol. Rhagwelwn y byddai Llywodraeth Cymru, fel rhan o hyn, yn annog awdurdodau a chymdeithasau tai unigol i nodi unigolion sy’n gweithio ar lefel uwch fel rhai a fyddai’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb cyffredinol dros gynhwysiant ariannol a’r gwaith ar addysg ariannol, ar draws yr awdurdod/y gymdeithas.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Sylw: Rydym yn gweithio’n agos gyda Thîm Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol Cymru, sy’n gweithio’n strategol ac ar lefel leol. Mae elfen strategol y gwaith hwn yn ceisio effeithio ar ymrwymiad, gwerthoedd a pholisi’r sefydliadau hynny sy’n gweithio gyda phobl sydd o dan anfantais oherwydd allgau ariannol, ac yn bwydo’n uniongyrchol i elfen cyflenwi leol a rhanbarthol y prosiect.

 

Er hyn, hoffem weld mwy o ymrwymiad strategol gan awdurdodau lleol a byddwn yn gweithio gyda’r Hyrwyddwyr i fynd ar ôl hyn.

 

Mae Uned Addysg Ariannol Cymru’n gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. Rhagwelir y bydd yr Uned wedi cyflenwi 24 sesiwn hyfforddi mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol erbyn diwedd mis Mawrth 2011.

 

Goblygiadau ariannol: Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu, ynghyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau, at ariannu Tîm Cynhwysiant Ariannol Cymru. Mae’r arian hwn i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2011 a byddai angen i unrhyw ymrwymiad ariannol parhaus gael ei ystyried ochr yn ochr â phwysau eraill yng Nghyllideb yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Darperir ar gyfer Uned Addysg Ariannol Cymru yn y Gyllideb Addysg.

 

Argymhelliad 8. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y ddarpariaeth addysg ariannol yn elfen orfodol o’r fframwaith ABCh, a’i bod yn adolygu’r pwyslais a roddir ar addysg ariannol yn rheolaidd.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor.

 

Sylw: Eisoes mae cyfrifoldeb statudol gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru i ddarparu Addysg Bersonol a Chymdeithasol eang a chytbwys i bob disgybl o oedran ysgol gorfodol. Yn y ddogfen anstatudol Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru, a ddefnyddir yn helaeth mewn ysgolion, mae addysg ariannol yn elfen allweddol i ddysgwyr 7 i 16 oed. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fynd i’r afael ag allgau ariannol. Er enghraifft, dylid rhoi cyfleoedd i bobl ifanc 14 i 16 oed ddeall pwysigrwydd cynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol a sut i gael cyngor ariannol. Mae addysg bersonol a chymdeithasol, fel yr holl agweddau eraill ar y cwricwlwm ysgol, yn cael ei hadolygu’n rheolaidd.

 

Goblygiadau ariannol: Dim goblygiadau ariannol ychwanegol. Darperir ar gyfer monitro ac adolygu’r cwricwlwm ysgol yn y Gyllideb Addysg.

 

Argymhelliad 9. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwahodd Estyn i ystyried a yw safonau’r addysg ariannol a ddarperir mewn ysgolion, gan gynnwys y ddarpariaeth drwy asiantaethau allanol, yn cael eu hyrwyddo a’u monitro’n ddigonol.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Sylw: Mae addysg ariannol yn cael ei chynnwys yn y ddarpariaeth ar gyfer Mathemateg ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn y cwricwlwm ysgol. Yn unol â gofynion y Fframwaith Arolygu Cyffredin, mae arolygiadau Estyn yn asesu’r ddarpariaeth a wneir gan ysgolion, gan gynnwys barnu i ba raddau mae profiadau dysgu’n cynnwys yr holl gwricwlwm ysgol yn effeithiol. Mae arolygiadau hefyd yn ystyried pa mor dda mae ysgolion yn cydweithredu â phartneriaid i ddarparu rhaglenni cydlynus a dewisiadau. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn comisiynu Estyn i wneud nifer o astudiaethau thematig trawsbynciol. Mae’r gwaith cyfredol yn cynnwys llunio adroddiad erbyn mis Mai 2011 ar arferion da wrth ddarparu addysg ariannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd yr achos dros ragor o adroddiadau thematig ar addysg ariannol yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

 

Goblygiadau ariannol: Dim.

 

Argymhelliad 10. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymgyrch barhaus yn y cyfryngau i gynorthwyo pobl i ddeall manteision cynhwysiant ac addysg ariannol, a sut y gallant ddefnyddio gwasanaethau cymorth ac ariannol (gan gynnwys cyfrifon banc sylfaenol ac yswiriant cynnwys cartref) yn lleol, drwy weithio gyda rhanddeiliaid ar lefelau lleol a chenedlaethol.

 

Ymateb: Gwrthod.

 

Sylw: Er y cydnabyddir bod codi ymwybyddiaeth yn agwedd bwysig ar sicrhau newid i ymddygiad, mae angen ystyried yn ofalus cyn buddsoddi symiau sylweddol o arian cyhoeddus mewn unrhyw fath o ymgyrch yn y cyfryngau yn yr hinsawdd sydd ohoni. Yn lle hynny, byddwn yn parhau i weithio gyda CFEB, yr Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol ac Uned Addysg Ariannol Cymru, gan ddefnyddio eu hadnoddau rhagorol i dargedu cyflogeion, myfyrwyr a darpar rieni, ymhlith eraill, er mwyn gwella eu dealltwriaeth o faterion ariannol.

 

Goblygiadau ariannol: Dim.

 

Argymhelliad 11. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â banciau’r stryd fawr er mwyn iddynt feithrin agwedd fwy cadarnhaol tuag at agor cyfrifon banc sylfaenol.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Sylw: Mae’r gallu i gael gwasanaethau ariannol prif ffrwd yn dal i fod yn un o’r heriau mawr wrth fynd i’r afael ag allgau ariannol ac mae’r safbwynt hwn wedi cael ei gefnogi gan ymrwymiad y Llywodraeth Glymblaid newydd i wella gallu defnyddwyr, yn benodol teuluoedd ar incwm bach, i gael gwasanaethau bancio. Mae llawer o’r gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud yn y maes hwn wedi bod y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol Llywodraeth y Cynulliad ond rydym wedi gweithio’n agos â’r Trysorlys ar nifer y bobl sy’n agor cyfrifon banc sylfaenol ac â LINK ar gyflwyno peiriannau arian parod y gellir eu defnyddio’n ddi-dâl  yng Nghymru.

 

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â banciau’r stryd fawr a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i annog pobl i agor cyfrifon banc sylfaenol a’u defnyddio’n rheolaidd.

 

At hynny, ni fydd darparu cyfrifon cyfredol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ond os yw unigolion yn gallu eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac yn ddigon hyderus i wneud hynny. Byddwn yn parhau i weithio gyda CFEB ar ddarparu “Arweiniad ar Arian” (Money Guidance) i gynorthwyo unigolion i wella eu gallu ariannol sylfaenol.

 

Dylid hefyd ystyried darparwyr amgen sy’n cynnig gwasanaethau a chynhyrchion ariannol, megis Undebau Credyd sy’n gweithredu eu cyfrifon cyfredol neu gyllidebu er mwyn rhoi dewisiadau hawdd eu rheoli i bobl. Byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad a thwf undeb credyd cynaliadwy, a all ddarparu’r gwasanaethau hyn i holl ddinasyddion Cymru. Ar 14 Medi cyhoeddus gyllid newydd gwerth £3.4 miliwn i gefnogi undebau credyd yng Nghymru hyd at ddiwedd 2013. Mae hyn yn cynnwys £1.6 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad ac £1.8 miliwn gan WEFO.

 

Goblygiadau ariannol: Dim.

 

Argymhelliad 12. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol a gwasanaethau cyngor y trydydd sector i sicrhau dull rhagweithiol o alluogi pobl i fanteisio ar fudd-daliadau. Rhagwelwn y byddai hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl y gwyddom sydd ag ôl-ddyledion rhent a/neu dreth gyngor yn cael eu cyfeirio at wybodaeth am y budd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w cael, ond nad ydynt yn eu hawlio.

Ymateb: Derbyn.

 

Sylw: Byddwn yn parhau i ariannu amrywiaeth o fentrau manteisio ar fudd-daliadau gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a’r trydydd sector i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bawb y mae arnynt angen cymorth i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w cael.

 

Ymateb Llywodraeth y Cynulliad i’r galw cynyddol am wasanaethau cyngor oedd darparu cyllid i nifer o fentrau a fydd yn helpu i gefnogi a symleiddio’r ffordd y darperir gwasanaethau yng Nghymru. Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2009, rhoesom £747,000 i Gyngor ar Bopeth Cymru i sefydlu Llinell Gyngor ag un rhif, sydd bellach yn gwbl weithredol ac yn darparu gwasanaeth rhagorol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda CFEB i hyrwyddo’r gwasanaeth Arweiniad ar Arian (Money Guidance), a fydd yn darparu cymorth uniongyrchol i bobl ganfod budd-daliadau priodol.

 

Mae cydweithio fel hyn yn helpu i gryfhau’r rhwydwaith cyngor wrth iddo wynebu pwysau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen yn wyneb y sefyllfa economaidd bresennol. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau y bydd cydweithio a syniadau llawn dychymyg fel hyn yn cyfrannu at gyflawni mwy gyda llai wrth i gyllid cyhoeddus ddod o dan bwysau cynyddol.

 

Goblygiadau ariannol: Oddeutu £2 miliwn y flwyddyn o’r gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

 

Argymhelliad 13. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a Llywodraeth y DU i godi ymwybyddiaeth o fenthyca arian yn anghyfreithlon ac effaith niweidiol hyn ar deuluoedd a chymunedau. Fel rhan o hyn, rhagwelwn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau bod rôl amhrisiadwy Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru yn parhau ac yn cael ei datblygu.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Sylw: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cefnogi’n llwyr y gwaith hollbwysig mae’r Uned Benthyca Arian yn Anghyfreithlon yn ei wneud ledled Cymru

 

Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gefnogi’r Uned Benthyca Arian yn Anghyfreithlon ar draws y Deyrnas Unedig ac y bydd gan Uned Cymru ddigon o adnoddau i gyflawni ac ehangu ei swyddogaethau er mwyn helpu mwy o bobl i ddianc rhag ofn a brawychiad gan fenthycwyr arian didrwydded.

 

Rydym yn addo parhau i gefnogi’r Uned a gweithio gyda hwy i gyflawni eu  swyddogaethau, yn ogystal â chefnogi gwaith gydag undebau credyd i hyrwyddo credyd fforddiadwy fel ffordd o fenthyca arian yn hytrach na throi at fenthycwyr arian didrwydded. 

 

Goblygiadau ariannol: Dim